Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Profedigaeth Cymru
Mae Marie Curie yma i ddarparu cymorth profedigaeth i unrhyw un yng Nghymru sy'n dioddef galar yn dilyn marwolaeth rhywun o ganlyniad i salwch angheuol.
Ffoniwch ni am ddim ar 0800 090 2309* neu trefnwch alwad isod.
Os oes angen cymorth arnoch yn dilyn profedigaeth, rydym yma i chi. P'un a oedd eich profedigaeth yn ddisgwyliedig, yn ddiweddar neu beth amser yn ôl, gallwn ni helpu. Gallwn hefyd eich cefnogi cyn i'ch anwylyd farw.
Sut y gallwn ni helpu
- Cwnsela profedigaeth: Rydym yn cynnig cwnsela profedigaeth ledled Cymru gyda chynghorydd cymwys. Gallwn ddarparu cymorth cwnsela dros y ffôn, yn rhithwir neu wyneb-yn-wyneb (yn amodol ar leoliad).
- Cymorth Profedigaeth dros y Ffôn: Mae ein gwasanaeth rhad ac am ddim yn cynnig hyd at chwe sesiwn wythnosol gydag un o'n gwirfoddolwyr dros y ffôn. Byddwch bob amser yn siarad â'r un person, ac mae pob sesiwn yn para hyd at 45 munud. Nid ydym yn wasanaeth cwnsela, ond byddwn yn eich paru â gwirfoddolwr sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig a fydd yn darparu man diogel lle gallwch siarad yn agored am eich colled a sut rydych yn teimlo.
- Cymorth mewn grŵp: Efallai y bydd cwrdd â phobl eraill sydd wedi cael profedigaeth mewn lleoliad grŵp cymorth yn eich helpu i ymdopi â'ch teimladau. Rydym yn gweithio i sefydlu grwpiau profedigaeth mewn cymunedau ledled Cymru, fel y gallwch gysylltu ag eraill sydd wedi profi marwolaeth rhywun agos atynt.
I gael mynediad at y gwasanaethau profedigaeth hyn, ffoniwch ni am ddim ar 0800 090 2309* neu trefnwch alwad isod.
*Mae galwadau'n gyfrinachol. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i oedolion dros 18 oed.
Eisiau i ni eich ffonio chi?
Defnyddiwch y ffurflen isod i ddweud wrthym ba fath o gymorth sydd ei angen arnoch a pha bryd fyddai orau i'ch ffonio.
Os ydych chi'n cwblhau'r ffurflen ar ran rhywun arall, sicrhewch fod gennych eu caniatâd i wneud hynny.