Marie Curie Hospice Bridgeman Road Penarth CF64 3YR
Marie Curie Hospice Bridgeman Road Penarth CF64 3YR
Os ydych chi neu rywun sy'n agos atoch yn byw gyda salwch terfynol a hoffech chi gefnogaeth gan Hosbis Marie Curie Caerdydd a'r Fro, cysylltwch â'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gyfrifol am eich gofal chi neu eich anwylyd. Gallai hyn fod yn dîm gofal lliniarol cymunedol, meddyg teulu, ymgynghorydd ysbyty neu nyrs ardal.
Pam na allaf gyfeirio fy hun?
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ac mae ein hosbisau yn ffurfio un rhan o'ch gofal cyffredinol. Er mwyn sicrhau bod yr holl wahanol fathau o ofal a chymorth a gewch yn gweithio'n dda gyda'i gilydd, mae'n ddefnyddiol iddynt gael eu cydlynu trwy'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd â chyfrifoldeb am eich gofal.
Mae ein hosbis yn darparu gofal arhosiad byr i gleifion mewnol, gwasanaethau cleifion allanol a gwasanaethau llesiant ar gyfer oedolion. Rydym hefyd yn cefnogi teuluoedd a gofalwyr. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan dimau gofal lliniarol ysbytai a chymunedol yn ogystal â gan feddygon teulu.
“
Cleifion mewnol Ar gyfer cleifion mewnol, mae amseroedd ymweld yn hyblyg. Ffoniwch ni ar 029 2042 6000 am fwy o wybodaeth.
Gwasanaethau lles a chymorth I gael gwybod beth sydd ar gael yn ein Canolfan Llesiant a Chymorth, ffoniwch ni ar 029 2042 6000 neu anfonwch neges e-bost at wellbeingandsupporthub@mariecurie.org.uk am fwy o wybodaeth.
Rydym yn dibynnu ar gefnogaeth pobl leol i barhau i ddarparu gofal a chymorth arbenigol yn rhad ac am ddim. Darganfyddwch sut y gallwch wirfoddoli, codi arian, neu gyfrannu i gefnogi eich hosbis leol.
©2025 Marie Curie. Registered Charity, England and Wales (207994), Scotland (SC038731). Registered company limited by guarantee, England & Wales (507597). Registered Office: One Embassy Gardens, 8 Viaduct Gardens, London SW11 7BW