Os ydych chi neu rywun annwyl yn byw gyda salwch terfynol ac yr hoffech ddefnyddio ein gwasanaethau, cysylltwch â'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gyfrifol am eich gofal chi neu'ch anwylyd. Gallai hyn fod yn dîm Gofal Lliniarol Cymunedol, Meddyg Teulu, ymgynghorydd ysbyty neu nyrs ardal.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r GIG ac mae ein hosbisau yn ffurfio un rhan yn unig o'ch gofal cyffredinol. Er mwyn sicrhau bod yr holl wahanol fathau o ofal a chymorth a gewch yn gweithio'n dda gyda'i gilydd, mae'n ddefnyddiol iddynt gael eu cydlynu trwy'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am eich gofal.
“
Byddwn yn teithio i'r man lle'r ydych chi, gan ddod â'r gofal nyrsio a'r cymorth emosiynol sydd ei angen arnoch chi, yng nghysur eich cartref eich hun.
©2025 Marie Curie. Registered Charity, England and Wales (207994), Scotland (SC038731). Registered company limited by guarantee, England & Wales (507597). Registered Office: One Embassy Gardens, 8 Viaduct Gardens, London SW11 7BW