O nyrsio a gofal personol i gefnogaeth emosiynol, mae gofal hosbis yn y cartref yn darparu gofal arbenigol ac ymarferol yng nghysur eich cartref eich hun. Gallwn reoli eich symptomau, eich helpu i gynllunio'r gofal sydd ei angen arnoch a darparu’r gefnogaeth emosiynol hanfodol, fel eich bod yn teimlo'n ddiogel, yn dawel eich meddwl ac yn cael y gwasanaethau hanfodol na fyddai ar gael fel arall.
Mewn rhai ardaloedd, yn dibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnoch, efallai y gallwn ddarparu ein gwasanaeth Gofal Hosbis Brys yn y Cartref, gan ddod â gofal cyflym ac ymatebol i chi fel nad oes rhaid i chi aros am yr ymweliad nesaf sydd yn y dyddiadur, ac osgoi'r pryder o ruthro i'r ysbyty.
Mae gwasanaethau gofal hosbis Marie Curie gartref yn helpu pobl ag unrhyw salwch y maent yn debygol o farw ohono, a'r bobl sy'n agos atynt.
Gall y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gofalu amdanoch eich cyfeirio at y gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys eich tîm ysbyty, nyrs ardal, staff cartrefi gofal neu feddyg teulu.
Bydd eich nyrs ardal neu feddyg teulu yn trafod gyda chi a yw ein gwasanaethau'n iawn i chi a pha fath a hyd y gofal fyddai fwyaf defnyddiol. Os yw'r ddau ohonoch yn cytuno y byddech yn elwa o'r gofal a gynigiwn, byddant yn cysylltu â ni ac yn trefnu Nyrs Marie Curie i ymweld â chi.
“
Dysgwch am y mathau o wasanaeth rydyn ni'n eu cynnig i bobl sy'n byw gyda salwch angheuol a sut i atgyfeirio cleifion.
©2025 Marie Curie. Registered Charity, England and Wales (207994), Scotland (SC038731). Registered company limited by guarantee, England & Wales (507597). Registered Office: One Embassy Gardens, 8 Viaduct Gardens, London SW11 7BW