Mae ein Hosbis Marie Curie gyfeillgar a chroesawgar Caerdydd a'r Fro yn helpu pobl sy'n byw gydag unrhyw salwch angheuol neu'n agosáu at ddiwedd oes — a'r bobl sy'n agos atynt — i gael y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau lles, megis therapïau ymlacio a chaffis gofalwyr, i unrhyw un sydd wedi'i effeithio gan salwch angheuol.
Mae ein nyrsys a'n cynorthwywyr gofal iechyd yng Nghymru yn dod â'r cymorth nyrsio ac emosiynol sydd ei angen arnoch chi, i gysur eich cartref eich hun. Cynigiwn gefnogaeth i'r bobl sy'n gofalu amdanoch chi hefyd - o sicrwydd a gwybodaeth ymarferol i roi amser iddynt gymryd seibiant.
Mae ein gwasanaeth Gofal Hosbis yn y Cartref ar gael yn ardaloedd byrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda, Powys a Bae Abertawe yng Nghymru.
P'un a ydych chi'n sâl neu'n gofalu am rywun sydd yn sâl, gall symptomau newid ar unrhyw adeg, ddydd neu nos. Nid yw salwch terfynol yn cadw at amserlen, felly ni ddylai'r gofal a gewch chi ddibynnu ar ddyddiadur chwaith. Mae Gofal Hosbis Brys yn y Cartref yno i chi pan fydd ei angen arnoch.
Mae ein gwasanaeth Gofal Hosbis Brys yn y Cartref ar gael yn ardal Betsi Cadwaladr – sef Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam.
Mae ein gwasanaethau Gofal Dementia a Seibiant ar gyfer pobl sy'n byw (neu'n gofalu am rywun) gyda dementia difrifol yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bae Abertawe.
Os ydych chi'n gofalu am rywun sydd â dementia difrifol, mae gallu eu cefnogi yn y man lle maen nhw'n teimlo'n fwyaf cyfforddus a diogel mor bwysig. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig gofal arbenigol, ymarferol a chwmnïaeth i bobl â dementia difrifol gartref, a seibiant i'w gofalwyr.
Mae ein gwasanaethau Gofal Dementia a Seibiant ar gyfer pobl sy'n byw (neu'n gofalu am rywun) gyda dementia difrifol yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bae Abertawe.
Os ydych chi'n gofalu am rywun sydd â dementia difrifol, mae gallu eu cefnogi yn y man lle maen nhw'n teimlo'n fwyaf cyfforddus a diogel mor bwysig. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig gofal arbenigol, ymarferol a chwmnïaeth i bobl â dementia difrifol gartref, a seibiant i'w gofalwyr.
Mae Marie Curie yma i ddarparu cymorth profedigaeth i bawb yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth a chymorth am ddim, gan gynnwys cwnsela, gwasanaeth cymorth dros y ffôn a chymorth grŵp colled a galar.
I gael eich cyfeirio at wasanaeth Marie Curie yn uniongyrchol, cysylltwch â'ch meddyg teulu, nyrs ardal neu dîm ysbyty.
Cysylltwch â'n canolfan gydlynu leol i ddysgu mwy am wasanaethau yn eich ardal a sut y gallwn helpu (ar agor 7am - 10pm bob dydd).
Dysgwch am y mathau o wasanaeth rydyn ni'n eu cynnig i bobl sy'n byw gyda salwch angheuol a sut i atgyfeirio cleifion.
Cysylltwch â'n Cymuned Ar-lein i gael cefnogaeth gan bobl eraill sydd wedi'u heffeithio gan salwch angheuol, gan gynnwys y rheiny sydd mewn profedigaeth. Mae'n lle i chi rannu eich meddyliau, teimladau a phrofiadau gydag eraill o’ch cartref eich hun.
©2025 Marie Curie. Registered Charity, England and Wales (207994), Scotland (SC038731). Registered company limited by guarantee, England & Wales (507597). Registered Office: One Embassy Gardens, 8 Viaduct Gardens, London SW11 7BW